Cangen Cymru

Cangen Cymru

Ardal: Cymru


Fe sefydlwyd Cangen Cymru o Gymdeithas y Clarsach yn hwyr yn 2011 gan Susan Berry,  a oedd ar y pryd yn gweithio yng Nghanolfan Telyn Cymru. Byddai Susan yn adrodd lawer gwaith yr hanes amdani ei hun yn gyrru o gwmpas tref Caerfyrddin, gan weld telynau yn ffenestri blaen y tai, a meddwl iddi ei hun mor wych fyddai cael yr holl bobl yna i chwarae gyda’i gilydd fel un.

Felly y cafodd y Gangen ei geni, a daeth y Ganolfan Delyn yn gartre naturiol iddi. Yno y cynhelid cyfarfodydd yn weddol gyson, nes i ni symud i’n cartre newydd yn Neuadd Pentre-cwrt yn 2012. Roedd yr adeilad newydd yma yn siwtio ein hangenion cynyddol yn berfffaith, yn neuadd agored, helaeth gyda mynediad hawdd heb risiau, a’r cwbl yn hollol fodern. Hyd at 2020, byddem yn cyfarfod rhwng chwech ac wyth gwaith y flwyddyn i gynnal gweithdai dysgu gyda thelynorion lleol a rhai o bellach i ffwrdd. Hyd yma yn 2021 rydym wedi llwyddo i drefnu pedwar gweithdy (gyda Meinir Heulyn, Elinor Evans, Harriet Earis, a Robin Huw Bowen), er gwaethaf sefyllfa barhaus Covid, drwy gymryd camau gofalus o ran iechyd a diogelwch. Fel arfer, buasem hefyd yn perfformio yn gyhoeddus hwnt ac yma i gefnogi digwyddiadau lleol arbennig ac i hybu’r Gangen, ond rydym wedi gorfod gohirio’r gweithgareddau hyn oherwydd Covid.

Byddwn yn mwynhau dysgu a chwarae nid yn unig alawon traddodiadol Cymreig a Phrydeinig, ond byddwn hefyd yn hoffi cynnwys darnau o’r repertoire byd-eang. Grŵp cymysg ydyn ni o ran oedran a gallu, ac mae llawer ohonom yn ddisgyblion hŷn. Bod yn agored ac ar gael i bawb yw ein nod.


Cysyllt Cynradd


Cysylltiadau  Defnyddiol

Digwyddiadau Cangen

There are no upcoming events.

Newyddion Cangen